Cymuned Abergele yn Trawsnewid Cwrt Blaen y Llyfrgell Trwy Brosiect “Hwb Trefi” a Ariennir gan Lywodraeth Cymru
Daeth cymuned Abergele ynghyd mewn gwaith tîm, creadigrwydd a balchder dinesig yn ystod y prosiect Hwb Trefi (Town Boost), a gyflawnwyd yn yr wythnos yn dechrau 24 Mawrth. Daeth y fenter, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, ac a arweiniwyd gan Creative Communities International, â thrigolion, busnesau a chynghorau ynghyd i ailddychmygu a gwella mannau cyhoeddus y tu allan i Lyfrgell Abergele.
Roedd y rhaglen wythnos o hyd yn cynnwys Noson Wybodaeth Gymunedol, Diwrnod Cynllunio dwys, a chyfres o Weithdai Busnes, pob un wedi'i gynllunio i gasglu syniadau ar sut i greu newid cadarnhaol yng nghanol y dref.
Arweiniodd y prosiect at ddiwrnod trawsnewid cymunedol ymarferol, lle bu gwirfoddolwyr o bob cwr o'r dref yn torchi eu llewys i wireddu'r weledigaeth gyffredin. Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys trigolion o bob oed, ochr yn ochr â busnesau, cynghorwyr tref, a chynrychiolwyr o'r cyngor sir.
Arweiniwyd y diwrnod gan David a Jodi o Creative Communities International, a bu eu hegni a'u harbenigedd yn annog y cyfranogwyr i wneud newidiadau beiddgar a chwareus i'r man cyhoeddus. Er i'r tywydd ddal i raddau helaeth, ac eithrio cawod byr, dramatig o genllysg, parhaodd yr hwyliau'n uchel.
Treuliodd gwirfoddolwyr y diwrnod yn paentio, glanhau, chwynnu ac adfywio'r ardal, gan ei thrawsnewid yn llwyddiannus yn lle mwy deniadol a chwareus i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Un o uchafbwyntiau cofiadwy’r trawsnewidiad oedd gosod “llyfrau pren” enfawr, a grëwyd yn unol ag athroniaeth “dangoswch, peidiwch â dweud” Creative Communities International. Mae'r llyfrau cerfluniol hyn yn gwasanaethu fel arwydd gweledol mai dyma yw cartref llyfrgell Abergele, gan ychwanegu swyn a swyddogaeth i'r man cyhoeddus.
Dangosodd y prosiect Hwb Trefi bŵer cydweithio a gwerth dulliau creadigol o greu lleoedd. Mae'r trawsnewidiad yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni mewn cyfnod byr o amser, pan roddir yr offer a'r hyder i gymunedau i siapio eu mannau cyhoeddus eu hunain, ac mae'n sefyll fel tirnod newydd bywiog yng nghalon Abergele.
