Hafan > Datganiad Preifatrwydd
Datganiad Preifatrwydd
Pan fyddwch yn cysylltu â ni
Fe fydd y wybodaeth a gyflwynwch (gwybodaeth bersonol megis enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, sefydliad) yn cael ei phrosesu a'i chadw i'n galluogi ni i gysylltu â chi, ac i ymateb i'ch gohebiaeth, i ddarparu gwybodaeth a/neu fynediad i'n cyfleusterau a'n gwasanaethau. Ni fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu na'i darparu ar gyfer unrhyw drydydd person arall.
Hawl y Cyngor i brosesu gwybodaeth
Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol Erthygl 6 (1) (a) (b) ac (e)
Fe ddigwydd prosesu gyda chaniatâd person y data neu
Mae prosesu'n angenrheidiol ar gyfer ufuddhau i ofynion cyfreithiol neu
Mae prosesu'n angenrheidiol ar gyfer gweithredu tasg a weinyddir er lles y cyhoedd, neu yng ngwethredu awdurdod swyddogol a roddwyd i'r reolwr.
Diogelwch gwybodaeth
Mae gan Gyngor Tref Abergele ddyletswydd i sicrhau diogelwch data personol. Fe ofalwn fod eich gwybodaeth wedi ei gwarchod rhag mynediad anawdurdodedig, colli, camddefnydd, ffugio, distrywio neu ddatgelu anawdurdodedig. Fe wneir hyn trwy gyfrwng camau technegol a pholisïau pwrpasol. Fe ellir gofyn am gopïau o'r polisïau hyn.
Ni fyddwn yn cadw eich data ond ar gyfer y pwrpas y casglwyd ef, a dim ond am gyhyd ag sy'n angenrheidiol. Wedyn fe gaiff ei ddileu. (Gallwch ofyn am ddileu'ch data a gedwir gan Gyngor Tref Abergele unrhyw amser).
Plant
Ni fyddwn yn prosesu unrhyw ddata sy'n ymwned â phlentyn (dan 13 oed) heb ganiatâd penodol rhiant/ gwarchodwr/wraig y plentyn dan sylw.
Mynediad i wybodaeth
Mae gennych yr hawl i ofyn am fynediad i'r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Gallwch wneud hynny trwy gysylltu â'n Swyddog Gwybodaeth Data: Mrs Mandy Evans, Clerc y Dref. Y
Cywiro gwybodaeth
Os tybiwch fod y wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir gallwch gysylltu â ni fel y gallwn ni ei diweddaru a chadw'ch data'n gywir. Cysylltwch â Mrs Mandy Evans, Clerc y Dref, i ofyn am hynny.
Dileu gwybodaeth
Os hoffech i Gyngor Tref Abergele ddileu'r wybodaeth amdanoch cysylltwch â Mrs Mandy Evans, Clerc y Dref, i ofyn am hynny.
Yr hawl i wrthwynebu
Os tybiwch nad yw'ch data'n cael ei brosesu ar gyfer y pwrpas y casglwyd ef fe allwch wrthwynebu. Cysylltwch â Mrs Mandy Evans, Clerc y Cyngor, i wrthwynebu. I
Hawliau'n ymwneud â gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio.
Nid yw Cyngor Tref Abergele'n defnyddio unrhyw fath o wneud penderfyniadau awtomataidd na phroffilio data personol unigolyn.
Casgliad: Yn unol â'r gyfraith nid ydym ond yn casglu swm cyfyngedig o wybodaeth amdanoch sy'n angenrheidiol ar gyfer gohebiaeth, gwybodaeth a darpariaeth gwasanaeth. Nid ydym yn defnyddio proffilio ac nid ydym yn gwerthu na throsglwyddo'ch data i drydydd person. Nid ydym yn defnyddio'ch data ar gyfer pwrpasau ar wahân i'r rhai a nodwyd. Rydym yn gofalu bod eich data'n cael ei gadw'n ddiogel. Rydym yn dileu pob gwybodaeth y tybir nad yw bellach yn angenrheidiol. Rydym yn adolygu'n gyson ein Polisïau Preifatrwydd i'w diweddaru i warchod eich data. (Gallwch ofyn am gopi o'n polisïau unrhyw amser).
Cwynion
Os oes gennych gwyn yn ymwneud â'r ffordd y mae'ch data personol wedi ei brosesu gallwch gwyno wrth Swyddog Gwybodaeth Data Cyngor Tref Abergele: Mrs Mandy Evans, Clerc y Dref, a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth casework@ico.org.uk Tel: 0303 123 1113