Cyngor Tref Abergele
Cyn 1974 roedd Abergele yn Gyngor Ardal Drefol yn sir hanesyddol Dinbych. Crëwyd Cyngor Tref Abergele yn 1974 yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol a diddymu Cyngor Ardal Drefol Abergele. Yn ystod yr ad-drefnu yn 1974 roedd yr ardal a wasanaethid gan Gyngor Tref Abergele yn cynnwys Llanddulas a Rhyd-y-Foel i'r gorllewin, a Thywyn a Bae Cinmel yn y dwyrain. Yn dilyn adolygiad gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru fe rannwyd yr ardal a wasanaethid gan Gyngor Tref Abergele i dair cymuned newydd yn 1983 - Llanddulas a Rhyd-y-Foel, Tywyn a Bae Cinmel, ac Abergele. Ers 1996 mae Abergele wedi bod yn un o 33 cyngor cymuned yn sir newydd Conwy. Mae ganddo statws cyngor tref gyda maer y dref.
Mae gan Abergele boblogaeth o 10,577 (Cyfrifiad 2011) ac ar gyfer llywodraeth leol fe rennir y dref i bedair ward. Mae gan y dref 16 cynghorydd yn cynrychioli'r wardiau canlynol - Gele (6 chynghorydd), Pensarn (3), Pentre Mawr (6), Llan San Siôr (1). Etholwyd y cynghorwyr presennol yn 2017 i wasanaethu am bum mlynedd.
Yn ei Gyfarfod Blynyddol ym mis Mai bydd y Cyngor yn ethol Maer y Dref a Dirprwy Faer. Bydd y Maer yn derbyn lwfans ar gyfer costau yn ymwneud â dyletswyddau dinesig. Nid yw cynghorwyr yn derbyn tâl am eu hamser, ond gallant hawlio tâl am dreuliau ychwanegol, megis teithio y tu allan i ardal cyngor y dref. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn cyflogi tri aelod o staff - Clerc y Cyngor, cynorthwywr gweinyddol rhan-amser a gofalwr/glanhawr.
Fel arfer mae Cyngor Tref Abergele yn cyfarfod ddwywaith y mis, ar wahân i fis Awst. Cynhelir y cyfarfodydd yn Neuadd y Dref, Ffordd Llanddulas, Abergele, ac fel arfer maent ar y nos Iau cyntaf a'r trydydd o'r mis, gan ddechrau am 6.45y.h. Gwelwch dudalen 'Cyfarfodydd Cyngor ac Agenda' am ddyddiadau cyfarfodydd i ddod.
Mae'n ofynnol ar y Cyngor i fabwysiadu Cynllun Cyhoeddi a darparu manylion o'r wybodaeth sydd ar gael yn rheolaidd i'r cyhoedd.
Gerrig yr Orsedd
BETH MAE CERRIG YR ORSEDD YN EU CYNRYCHIOLI
Mae’r Cylch hwn o Gerrig yr Orsedd yn cynrychioli Seremoni’r Cyhoeddi a gynhaliwyd ar y safle hwn ddydd Sadwrn, 9 Gorffennaf 1994. Yn draddodiadol, cynhelir y seremoni hon o leiaf flwyddyn a diwrnod cyn dechrau Eisteddfod Genedlaethol Cymru a gynhaliwyd y tro hwn ar gaeau Fferm Hendre Fawr yn Abergele.
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU
Drwy ei Gyfansoddiad, mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn bodoli i ddiogelu’r Gymraeg ac i hyrwyddo diwylliant Cymru. Cymraeg yw iaith swyddogol yr Eisteddfod, gan fod yr ŵyl yn bodoli i helpu plant Cymru i ymfalchïo yn eu treftadaeth.
Mae Gorsedd y Beirdd yn cynnwys llawer iawn o ddefodau rydyn ni’n eu cysylltu â’r Eisteddfod Genedlaethol.
Ar ddiwrnod y Seremoni hon yn 1994, yr unigolyn amlwg oedd yr Archdderwydd, sef y Parch. John Gwilym Jones a oedd mewn gwisg gwyn ac aur, ynghyd â llu o gyn-archdderwyddon a bron i 200 o Dderwyddon ac Ofyddion Gorsedd y Beirdd yn eu gwisgoedd gwyn, glas a gwyrdd.
HANES CRYNO O ORSEDD Y BEIRDD
Mae aelodau Gorsedd y Beirdd yn cynrychioli cymdeithas o feirdd, awduron, cerddorion ac artistiaid, ynghyd â dynion a menywod sydd wedi cael eu hanrhydeddu oherwydd eu gwasanaeth i Gymru. Sefydlwyd yr Orsedd gan yr hynafiaethydd a’r bardd gwych o’r 18fed ganrif, Iolo Morganwg. Dyfeisiodd seremoni er mwyn dyrchafu celfyddyd barddoniaeth a cherddoriaeth.
Y CYHOEDDI
(Darn o daflen wreiddiol Seremoni’r Cyhoeddi 1994.)
Heddiw yng Nghylch yr Orsedd ym Mharc Pentre Mawr, rydyn ni’n cyhoeddi, ymhen tri mis ar ddeg o’r dyddiad hwn, y bydd Eisteddfod 1995 yn cael ei hagor yn swyddogol. Bydd Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn yn cynnal gŵyl gystadleuol deithiol fwyaf Ewrop i’r ardal hon rhwng 5 a12 Awst, 1995. Disgwylir y bydd tua 160,000 o bobl yn dod yma i fwynhau rhaglen ddiwylliannol amrywiol iawn. Bydd yn ddathliad o ddiwylliant Cymru, a bydd croeso yno hefyd i’r rheini nad ydynt yn deall y Gymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd ar gael a llawer o weithgareddau i ddysgwyr Cymraeg.
TREFN Y SEREMONI YN 1994
FFANFFER – Mae’r Archdderwydd yn gofyn i’r gynulleidfa godi ar ganiad y ffanffer.
GWEDDI’R ORSEDD – Y Parch. Ifor ap Gwilym
CYHOEDDIR BOD YR ORSEDD AR AGOR GAN yr Archdderwydd John Gwilym
EMYN – Tôn ‘Sanctus’
ANERCHIAD gan yr Archdderwydd John Gwilym.
CYFLWYNO’R CORN HIRLAS gan un o Famau’r ardal. Wrth iddi nesáu at y Maen Llog, mae hi’n moesymgrymu dair gwaith – y trydydd tro ar ôl cyrraedd y Maen. Wrth gyflwyno’r Corn mae’n dweud “Hybarch Archdderwydd, yn enw Aelwydydd Bro Colwyn, gofynnwn i ti yfed o win ein croeso i’r Orsedd a’r Eisteddfod.”
Ar ôl i’r Archdderwydd yfed o’r Corn Hirlas, mae’n ei ddychwelyd at y Cyflwynydd gan ddweud “Diolch fy mhlentyn. Boed i fendith y Nefoedd fod ar aelwydydd Bro Colwyn a’ch Eisteddfod”.
CANTORES CYWYDD Y CYHOEDDI – Rhian yr Alwen.
CROESO Mae Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn croesawu’r Orsedd i’r ardal ac yn cyflwyno’r copi cyntaf o’r rhestr o Gystadlaethau i’r Archdderwydd
CYFARCH Y BEIRDD
CYFLWYNO’R FLODEUGED gan Miss Angharad Davies ynghyd â dwy lawforwyn. Mae un o lawforynion ifanc yr ardal yn cyflwyno’r Flodeuged, sef tusw o flodau a gasglwyd o bridd a daear Cymru.
DAWNS Y BLODAU gan ddisgyblion Ysgol Sant Elfod, Ysgol Glan Morfa ac Ysgol Glan Gele Abergele, ynghyd ag offerynwyr o Ysgol Llandrillo yn Rhos.
DARLLEN Y SGRÔL I GYHOEDDI EISTEDDFOD BRO COLWYN GAN Y Cofiadur Jams Nicholas
FFANFFER GAN DDAU DRYMPEDWR – ac ar ôl hynny mae’r gynulleidfa’n sefyll ac yn ymuno â chanu’r emyn clo i dôn ‘Groeswen’.
DATGENIR BOD Y SEREMONI AR GAU.