Croeso gan Y Maer - Cynghorydd Diane Green
Cyfieithiad i ddilyn yn fuan... I would like to welcome all viewers to the Abergelepensarn website. This I hope will be a valuable source of information about Abergele Town Council and our community in general.

Cynghorydd Diane Green, Maer y Dref 2024/25

Cynghorydd Tracey Brennan, Dirprwy Faer 2024/25
Ein Maer
Fe gymerodd Maer Abergele, y Cynghorydd Diane Green, ei llw'n swyddogol Dydd Iau 2il o Faiy 2024. Cynhaliwyd y seremoni yn Neuadd y Dref.
Mae'r Maer yn cael y flaenoriaeth dros bawb yn y dref. Y Maer yw prif ddinesydd Abergele, yn cynrychioli'r Cyngor, pob grŵp gwleidyddol a phobl Abergele. Mae'r Maer yn 'Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus' i'r dref, a rhaid iddo/iddi fod yn anwleidyddol bob amser yn ystod ei dymor/thymor fel Maer. Yn rhinwedd ei swydd, bydd y Maer yn llywyddu yng nghyfarfodydd y Cyngor, a'i gyfrifoldeb o/ei chyfrifoldeb hi fydd cadw trefn, rheoli ymddygiad trafod, a dilyn y canllawiau a amlinellir yn Rheolau Sefydlog y Cyngor.
Yn ogystal â chadeirio cyfarfodydd y Cyngor yn Siambr y Cyngor bob mis bydd y Maer yn:
- Agor digwyddiadau a gynhelir yn y dref a rhoi croeso dinesig
- Cynnal amrywiol ddigwyddiadau a Derbyniadau Dinesig
- Cefnogi pobl chwaraeon y dref (ymweld â, neu gychwyn digwyddiadau, cyflwyno gwobrau, a.y.y.b.)
- Agor gwahanol ddigwyddiadau (garddwestau ysgolion, busnesau newydd,a.y.y.b.)
- Bod yn bresennol mewn amrywiaeth eang o ddigwyddiadau (Dyddiau Agored, cyflwyniadau ysgolion/colegau, Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol, Ciniawau, digwyddiadau dinesig yn y gymdogaeth, a.y.y.b.)
- Ymweld â nifer o bobl y dref i ddathlu achlysuron arbennig (e.e. pen-blwyddi 100 oed, a.y.y.b.)
Caiff Dirprwy Faer hefyd ei ethol/hethol. Swydd y Dirprwy Faer yw cyflawni'r uchod yn absenoldeb y Maer.
Ar ôl cael ei ethol/hethol gan ei gyd/chyd-gynghorwyr i'r swydd, fe all Maer newydd ddewis Maeres neu Gymar/Gymhares i fynd gydag ef/hi i weithgareddau a digwyddiadau yn ystod cyfnod ei swydd, a'i gynorthwyo/chynorthwyo i drefnu croesawiadau ac achlysuron codi arian at achosion da.
Mae Caplan y Maer, a ddewisir gan y Maer newydd ar ôl ei benodiad ef/ ei phenodiad hi, yn gofalu am anghenion ysbrydol y Maer, gan gynorthwyo a gwasanaethu yng Ngwasanaeth Dinesig y Maer, a hefyd yn aml mewn gwasanaethau eraill yn ystod blwyddyn ei swydd. O dro i dro bydd y Caplan yn mynd gyda'r Maer i weithgareddau pan fydd hynny'n briodol.
Os dymunwch wahodd y Maer i ddigwyddiad, a wnewch chi lawrlwytho ffurflen isod a'i anfon drwy:
Ebostiwch:
info@abergeletowncouncil.gov.wales
neu
Post:
Anrhydeddus Faer Abergele, y Cyng. Diane Green
Cyngor Tref Abergele
Ffordd Llanddulas
Abergele
LL22 7BT
Dyddiadur y Maer
Ymrwymiadau i'w cyflawni gan Faer Abergele:
Os bydd gennych achos i gysylltu gyda Maer Abergele, efallai i'w wahodd/i'w gwahodd i fod yn bresennol neu i wasanaethu mewn digwyddiad y byddwch yn ei gynnnal, neu am unrhyw reswm arall, gellir gwneud hynny fel a ganlyn:
Post:
Anrhydeddus Faer Abergele, y Cyng. Tracey Brennan
Cyngor Tref Abergele
Ffordd Llanddulas
Abergele
LL22 7BT
Ffôn: 01745 833242
E-bost: info@abergeletowncouncil.gov.wales
