Cynllunio
Mae'r Cyngor Tref yn ymgynghorai statudol ar geisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau yn ardal Abergele. Mae'r Cyngor yn derbyn copïau o geisiadau cynllunio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn eu hystyried ddwywaith y mis yn ei gyfarfodydd Arferol a phwyllgor Dibenion Cyffredinol a Chynllunio. Edrychwch ar agenda cyfarfodydd sydd i ddod am fanylion y ceisiadau sydd i'w hystyried. Mae manylion unrhyw geisiadau sydd wedi'u hystyried mewn cyfarfodydd blaenorol, gan gynnwys sylwadau'r Cyngor, i'w cael yn Atodiad A ar ddiwedd y Cofnodion.
Rhaid nodi mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sydd â'r pŵer statudol i benderfynu ar geisiadau cynllunio, nid y Cyngor Tref.
Gwybodaeth a chyngor ar gyflwyno cais, neu i lawrlwytho'r ffurflenni cais.
Trwyddedu
Dan amodau Deddf Trwyddedu 2003, nid yw'r Cyngor Tref yn ymgynghorai statudol a gall gyflwyno sylwadau ar faterion trwyddedu dim ond pan fydd gofyn iddo wneud hynny gan bobl sy'n byw gerllaw i'r eiddo y mae'r cais yn gysylltiedig ag o. Mae'n rhaid rhoi hysbysiadau ar yr eiddo a'u cyhoeddi yn y wasg leol i roi gwybod i gymdogion bod cais trwyddedu wedi'i gyflwyno.
Mae’r Cyngor Tref yn parhau i noddi meysydd parcio am ddim (sy’n eiddo i GBSC) er mwyn cynnig parcio am ddim am hyd at 10 awr.
Maes Parcio Water Street - Ar agor 24 awr y dydd
Cod Post - LL22 7SH
Lle i 56 (dim Coetsis)
Arhosiad hir
Mannau i bobl anabl
Nepell ar droed i Ganol y Dref a thoiledau cyhoeddus
Mwyafswm o 10 awr
Maes Parcio Llyfrgell Market Street - Ar agor 24 awr y dydd
Cod Post - LL22 7AA
Lle i 30 (dim Coetsis)
Arhosiad byr
Mannau i bobl anabl
Canol y Dref
Mwyafswm o 3 awr
Promenâd Pensarn
Cod Post - LL22 7PP
Lle i 100 (dim Coetsis)
Arhosiad hir
Mannau i bobl anabl
Ger y traeth
Toiled
Mwyafswm o 10 awr