Hafan > Beth sydd ymlaen > Archif Beth sydd ymlaen > Cerddwch Ar Gyfer Dementia
Cerddwch Ar Gyfer Dementia
Diwrnod Alzheimer y Byd – Taith Gerdded Abergele dros Ddementia
Ymunwch gyda ni ar ddydd Sul, Medi’r 21ain ar gyfer ein Taith arbennig dros Ddementia.
Cofrestru o 11:30yb yn Yr Hen Ysgol, Stryd y Farchnad, Abergele. £5 i gymryd rhan. Am ddim i blant a chŵn. Mae’r daith yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau.
Cyfle i gyd-gerdded er mwyn dangos cefnogaeth, codi ymwybyddiaeth a chysylltu gydag eraill.
Taith newydd, o’r Hen Ysgol, heibio Eglwys Sant Mihangel, y lawnt fowlio, at Barc Pentre Mawr, i fyny Ffordd y Môr, heibio Tesco, cyn dychwelyd i’r Hen Ysgol. (Mae Clwb Rotari Abergele wedi cytuno’n garedig i gyflawni rolau Stiwardiaid ar hyd y daith i helpu pobl i groesi’r ffordd)
Mae croeso ichi wisgo glas neu borffor i gyd-fynd â’ch gilydd os hoffech chi. Mae croeso i gŵn ufudd, gan gynnwys y tu mewn i’r Hen Ysgol.