Hafan > Newyddion > Hysbysiad o Gyfethol, Gele

Hysbysiad o Gyfethol, Gele

Hysbysiad o Gyfethol

Adran 116 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Cyngor Tref Abergele - ward Gele

Rhoddir hysbysiad trwy hyn fod 1 sedd wag am swydd Cynghorydd yn y Gymuned/Ward uchod, a fod y Cyngor Cymuned yn bwriadu cyfethol.

Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau o'r cyhoedd sy'n cyflawni'r meini prawf canlynol ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Cymuned dywededig. Rhaid bod yn ddinesydd Prydain, y Gymanwlad, Iwerddon neu'r Undeb Ewropeaidd neu yn ddinesydd tramor cymwys ac yn 18 oed neu'n hŷn, ac yn cyflawni o leiaf un o'r meini prawf canlynol:*

  • Wedi'ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod; neu
  • Yn ystod y cyfan o'r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu'n denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod; neu
  • Wedi bod â'ch prif neu'ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod; neu
  • Rydych wedi byw yn y gymuned, neu o fewn 4.8 cilometr ohoni, yn ystod y cyfan o'r 12 mis diwethaf.

*Mae rhai pobl benodol wedi'u hanghymhwyso rhag ymgeisio, yn eu plith swyddogion cyflogedig y Cyngor, unrhyw un sy'n destun gorchmynion cyfyngu methdalwyr a'r rheiny sy'n destun dedfrydau o garchar yn ddiweddar. Mae'r gyfrifoldeb yn eistedd gyda'r ymgeisydd i sicrhau eu bod yn gymwysedig i ymgeisio.

Os ydych yn dymuno cael eich ystyried i gael eich cyfethol ar gyfer y sedd wag, neu'n dymuno cael rhagor o wybodaeth ynghylch rôl Cynghorwyr Cymuned, cysylltwch â Chlerc y Cyngor Cymuned ar 01745 833242 eu drwy e-bost info@abergeletowncouncil.gov.wales

Hysbysiad o Gyfethol (pdf)

Pôb stori newyddion

Eiconau Cyngor Tref Abergele