Hafan > Newyddion > Dwr Cymru prosiectau

Dwr Cymru prosiectau

Mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio yn ein hardal leol dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi rhoi cyfres o synwyryddion clyfar i'r dref. 

Mae hyn yn cynnwys gorsaf dywydd, synwyryddion lleithder pridd, a synwyryddion lefel dŵr, sydd wedi'u lleoli mewn gwahanol fannau ledled y dref a'r cyffiniau. Mae'r synwyryddion yn casglu data amser real am ein hamgylchedd, ac yn cynnig cyfle gwych i arsylwi patrymau, i ddysgu, ac i gynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau. 

Mae modd cael mynediad at y dangosfwrdd data drwy’r ddolen isod. Mae’n rhyngweithiol, gan ganiatáu ichi weld gwybodaeth amser real, a chanolbwyntio hefyd ar wybodaeth benodol dros gyfnod penodol o amser:

Cyngor Tref Abergele - Dangosfyrddau - Grafana

I ddysgu mwy am Dŵr Cymru yn gweithio yn yr ardal leol

Pôb stori newyddion

Eiconau Cyngor Tref Abergele