Diwrnod VJ 2025 – Abergele yn Cofio
Ar ddydd Iau 15fed Awst, nododd Abergele Ddiwrnod VJ gyda seremonïau parchus gosod torchau yn Eglwys Sant Mihangel a Sant Siôr.
Gosododd y Maer, y Cynghorydd Tracey Brennan, a'r Dirprwy Faer, y Cynghorydd Alan Hunter, dorchau i anrhydeddu’r rhai a wasanaethodd yn Asia-Môr Tawel yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Diolch arbennig i Carl Bishop am arddangos baner y dref gyda balchder ac urddas.
Rydym yn cofio eu dewrder, eu haberth a'u gwasanaeth.
#DiwrnodVJ #AbergeleYnCofio # YnAngofNiChântFod

