Cartref > Hanes
Hanes
Cyn 1974 roedd Abergele yn Gyngor Ardal Drefol yn sir hanesyddol Dinbych. Crëwyd Cyngor Tref Abergele yn 1974 yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol a diddymu Cyngor Ardal Drefol Abergele. Yn ystod yr ad-drefnu yn 1974 roedd yr ardal a wasanaethid gan Gyngor Tref Abergele yn cynnwys Llanddulas a Rhyd-y-Foel i'r gorllewin, a Thywyn a Bae Cinmel yn y dwyrain. Yn dilyn adolygiad gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru fe rannwyd yr ardal a wasanaethid gan Gyngor Tref Abergele i dair cymuned newydd yn 1983 - Llanddulas a Rhyd-y-Foel, Tywyn a Bae Cinmel, ac Abergele. Ers 1996 mae Abergele wedi bod yn un o 33 cyngor cymuned yn sir newydd Conwy. Mae ganddo statws cyngor tref gyda maer y dref.
Mae gan Abergele boblogaeth o 10,577 (Cyfrifiad 2011) ac ar gyfer llywodraeth leol fe rennir y dref i bedair ward. Mae gan y dref 16 cynghorydd yn cynrychioli'r wardiau canlynol - Gele (6 chynghorydd), Pensarn (3), Pentre Mawr (6), Llan San Siôr (1). Etholwyd y cynghorwyr presennol yn 2017 i wasanaethu am bum mlynedd.
Yn ei Gyfarfod Blynyddol ym mis Mai bydd y Cyngor yn ethol Maer y Dref a Dirprwy Faer. Bydd y Maer yn derbyn lwfans ar gyfer costau yn ymwneud â dyletswyddau dinesig. Nid yw cynghorwyr yn derbyn tâl am eu hamser, ond gallant hawlio tâl am dreuliau ychwanegol, megis teithio y tu allan i ardal cyngor y dref. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn cyflogi tri aelod o staff - Clerc y Cyngor, cynorthwywr gweinyddol rhan-amser a gofalwr/glanhawr.
Fel arfer mae Cyngor Tref Abergele yn cyfarfod ddwywaith y mis, ar wahân i fis Awst. Cynhelir y cyfarfodydd yn Neuadd y Dref, Ffordd Llanddulas, Abergele, ac fel arfer maent ar y nos Iau cyntaf a'r trydydd o'r mis, gan ddechrau am 6.45y.h. Gwelwch dudalen 'Cyfarfodydd Cyngor ac Agenda' am ddyddiadau cyfarfodydd i ddod.
Mae'n ofynnol ar y Cyngor i fabwysiadu Cynllun Cyhoeddi a darparu manylion o'r wybodaeth sydd ar gael yn rheolaidd i'r cyhoedd.
