Hafan > Y Cyngor > Dwr Cymru Prosiectau

Dwr Cymru Prosiectau

Mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio yn ein hardal leol dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi rhoi cyfres o synwyryddion clyfar i'r dref. 

Mae hyn yn cynnwys gorsaf dywydd, synwyryddion lleithder pridd, a synwyryddion lefel dŵr, sydd wedi'u lleoli mewn gwahanol fannau ledled y dref a'r cyffiniau. Mae'r synwyryddion yn casglu data amser real am ein hamgylchedd, ac yn cynnig cyfle gwych i arsylwi patrymau, i ddysgu, ac i gynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau. 

Mae modd cael mynediad at y dangosfwrdd data drwy’r ddolen isod. Mae’n rhyngweithiol, gan ganiatáu ichi weld gwybodaeth amser real, a chanolbwyntio hefyd ar wybodaeth benodol dros gyfnod penodol o amser:

Cyngor Tref Abergele - Dangosfyrddau - Grafana

Ac mae Dŵr Cymru yn dal i weithio yma yn y dref:

Mae Dŵr Cymru wedi dechrau ei brosiect “Tref Arbed Dŵr Glyfar” yn Abergele. Gyda'r nod o ddeall yn well sut gall y cwmni gefnogi cwsmeriaid i leihau eu defnydd o ddŵr, trwy ôl-osod dyfeisiau effeithlonrwydd dŵr, a thrwy ymgysylltu ac addysgu i annog pobl i newid ymddygiad, mae Dŵr Cymru’n gweithio gyda chwsmeriaid domestig a busnesau a hefyd yn cefnogi grwpiau a hybiau cymunedol lleol. Mae llawer o gwsmeriaid eisoes wedi cysylltu â Dŵr Cymru ac wedi cael eu pennau cawod a dyfeisiau eraill am ddim i'w rhoi ar brawf. Bydd gwaith Dŵr Cymru’n parhau dros y misoedd nesaf, felly cadwch olwg am daflenni, llythyrau ac e-byst gan y cwmni a fydd yn eich hysbysu o sut gallwch chi gymryd rhan.

Dywedodd y Rheolwr Prosiect, Charlotte Harris: ‘Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio â phobl hyfryd Abergele i ddarganfod ffyrdd arloesol o arbed dŵr a lleihau biliau, a all fod o fudd i gymunedau ledled Cymru. Rydyn ni’n eich gwahodd i fod yn rhan o'r daith hon drwy roi cynnig ar ein dyfeisiau a'n ffyrdd newydd o arbed dŵr, am ddim. Rhannwch eich profiadau gyda ni a helpwch i greu dyfodol mwy cynaliadwy.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn rhai o fentrau arbed dŵr Dŵr Cymru, sganiwch y cod QR isod neu ewch i'r wefan - Abergele Smart Town - Cyngor Tref Abergele

Cod QR Dwr Cymru
Eiconau Cyngor Tref Abergele